NDM6283 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6283 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6283
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd
diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella
effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
2.
Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n
sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi
tanwydd.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi
ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o
bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat.
4.
Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a
chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch
gwaith.
5.
Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd
i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi
cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i
niwed.
6.
Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd,
lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni
a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu.
7.
Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym
mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru.
Cefnogir
gan:
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2017
Angen Penderfyniad: 28 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd