Ofcom

Ofcom

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ystyried y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft sydd wrthi'n cael ei ddatblygu rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol  Cymru a’r Swyddfa Gyfathrebu (Ofcom) ym mis Chwefror 2018. Mae hwn yn deillio o ddarpariaethau yn Neddf Cymru 2017 sy'n darparu:

 

·       Y gall Llywodraeth Cymru benodi aelod o Fwrdd Ofcom, a

·       Bod rhaid i'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol anfon copïau o ddatganiad cyfrifon ac adroddiad blynyddol Ofcom i'w cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2017

Dogfennau