NDM6339 Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus
NDM6339 Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus
NDM6339 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i
ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau
statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2.
Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector
cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.
3.
Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n
garbon niwtral erbyn 2030.
4.
Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau
ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017
Angen Penderfyniad: 27 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS