NDM6335 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6335 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6335
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational
Wages, a'r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr
sy'n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar
gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn
rhanbarth benodol.
2.
Yn credu:
a)
y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo
â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU;
b)
bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar
fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal
ag o'r tu fewn iddo;
c)
nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o
aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;
d)
bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid
gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.
3.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:
a)
nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE;
b)
nad yw'n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o
ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac
c)
sy'n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.
'The
Impact of Immigration on Occupational Wages: evidence from Britain'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2017