P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Antony Foulkes, ar ôl casglu 52 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau effeithiol i arafu traffig ar hyd cefnffordd yr A487 sy'n dirwyn yn uniongyrchol drwy ganol pentrefi cyfagos Tre Taliesin a Thre'r Ddôl, ac i ymgynghori â'r trigolion sy'n byw yn y pentrefi hyn a cheisio'u barn.

​Yr A487 yw'r brif gefnffordd rhwng y gogledd a'r de ac mae'n dirwyn ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mae nifer fawr a chynyddol o gerbydau sy'n goryrru a thraffig nwyddau trwm yn teithio ar hyd y gefnffordd hon drwy ganol pentrefi cul Tre Taliesin a Thre'r Ddôl yng Ngheredigion. Ddiwedd 2016, ffurfiwyd Grŵp Gweithredu Taliesin A487 gan y pentrefwyr. Mae'r grŵp gweithredu lleol wedi cyfarfod a chyfathrebu'n agos â Chyngor Cymuned Llangynfelyn, Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Ceredigion a'r Aelod Seneddol lleol i gynnal dadansoddiad o'r problemau a'r atebion posibl. Mae'r grŵp hefyd wedi mynegi'i bryderon wrth Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd-orllewin Cymru, ac wedi cynnig cyfarfod â hi i gyfleu eu safbwyntiau, ond ni dderbyniwyd y gwahoddiad hyd yma.

 

Mae'n bwysig bod llais pentrefwyr sy'n byw o ddydd i ddydd gyda thraffig sy'n goryrru yn cael ei glywed a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried eu safbwyntiau'n llawn, er mwyn i fesurau arafu traffig effeithiol, sy'n diogelu pentrefwyr a defnyddwyr y ffordd, gael eu cynllunio a'u rhoi ar waith.

 

Heol

Heol

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/07/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ceredigion

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2017