P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Turnbull, ar ôl casglu 118 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​ Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol cynnwys opsiwn fegan ym mhob ffreutur neu wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lle y mae ganddi’r pŵer i wneud hynny. Mae Senedd Portiwgal wedi cymeradwyo opsiwn fegan gorfodol ym mhob ffreutur cyhoeddus (e.e. ysgolion, prifysgolion, carcharau, ysbytai) – sy’n gam enfawr ar gyfer arlwyo fegan i bawb. Mae dros 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan, ac mae’r ganran yn cynyddu. Mae deiet fegan yn fwy iachus, mae’n arbed adnoddau ac mae’n amddiffyn y blaned ac, yn fwy na dim, nid oes creulondeb yn ei gylch. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw arnom i fwyta rhagor o fwydydd sy’n deillio o blanhigion. Mae bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid yn gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon.

Sbeisys ac offer coginio

Sbeisys ac offer coginio

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/01/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am ei bod yn anodd gweld sut y gall y Pwyllgor ei dwyn ymlaen heb gyswllt gan y deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/07/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Casnewydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2017