NDM6325 - Dadl Plaid Cymru

NDM6325 - Dadl Plaid Cymru

NDM6325 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod taliadau Ewropeaidd yn ffurfio 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ac mai diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd i bobl am bris rhesymol, o ansawdd uchel, sy'n arddel safonau lles uchel.

2. Yn nodi â phryder y gallai cytundebau masnach anghyfrifol achosi i Gymru gael ei gorlifo â bwyd rhad wedi'i fewnforio, gan niweidio'r diwydiant amaethyddol, yr economi wledig ac iechyd y cyhoedd.

3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni addewidion y rhai a fu'n ymgyrchu'n frwd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gwarantu bod y cyllid Ewropeaidd ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei roi'n ôl yn ei gyfanrwydd.

4. Yn credu, er mwyn rhoi diogelwch i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, y dylai Llywodraeth y DU gael cymeradwyaeth pob gwlad yn y DU cyn llofnodi unrhyw gytundeb masnach.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/06/2017

Angen Penderfyniad: 7 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd