NDM6322 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6322 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6322 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r prinder dybryd o gartrefi ar gyfer pobl iau a theuluoedd i'w prynu neu
eu rhentu am bris sy'n agos at y tueddiad hanesyddol.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i seilio ei chyfrif o ran anghenion tai ar y
rhagolygon amgen yn y ddogfen 'Future Need and Demand for Housing in Wales'.
3.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cyhoeddi strategaeth er mwyn sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys safleoedd tir
llwyd, ar gael i adeiladu tai;
b)
sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau galwedigaethol ar gyfer y sector
adeiladu a datblygu prentisiaethau modern; ac
c)
archwilio'r opsiynau ar gyfer byw fel teulu mewn lleoliadau trefol o ddwysedd
uwch, yn dilyn yr arfer gorau mewn llawer o ddinasoedd Ewrop.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/06/2017
Angen Penderfyniad: 7 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd