Cyfrifon Llywodraeth Ganolog
Cyfrifon Llywodraeth Ganolog
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Gyfrifon
Llywodraeth Ganolog 2015-16 ar 18
Mai 2017.
Dyma'r adroddiad blynyddol cyntaf ar yr archwiliadau o
ddatganiadau ariannol cyrff llywodraeth ganolog. Mae'n crynhoi canlyniadau
gwaith archwilio ar gyfer 2015-16 a gwblhawyd mewn cyrff llywodraeth ganolog
(cyrff a archwilir) yng Nghymru.
Mae cyrff llywodraeth ganolog yng Nghymru yn darparu
ystod eang o wasanaethau, ac wrth wneud hynny, yn gwario swm sylweddol o arian
cyhoeddus. Fel pob corff cyhoeddus, mae gofyn iddynt gynhyrchu, a chael wedi'u
harchwilio, set o ddatganiadau ariannol blynyddol (cyfrifon) i ddangos ac
adrodd ar stiwardiaeth yr arian cyhoeddus a ymddiriedir iddynt, ac maent yn
cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny.
Mae cynhyrchu cyfrifon cywir ac amserol yn dasg
sylweddol, ond yn angenrheidiol i ddangos atebolrwydd am stiwardiaeth a llywodraethu
arian cyhoeddus. Gall methu â chyhoeddi cyfrifon o'r fath mewn modd amserol
adlewyrchu'n wael ar y corff a archwilir, gan danseilio ei drefniadau rheoli
ariannol a llywodraethu corfforaethol, yn ogystal â'r hyder cyffredinol yn y
sefydliad.
Bydd y fframwaith cyfrifyddu a llywodraethu sy'n
berthnasol i bob corff llywodraeth ganolog yn cael ei ddiffinio gan ei
fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol. Bydd hyn yn pennu ffurf a chynnwys y
datganiadau ariannol ac unrhyw ofynion adrodd eraill megis eu Hadroddiad
Blynyddol, ac unrhyw derfynau amser ar gyfer yr archwiliad a chyhoeddi'r
dogfennau hyn.
Mae'r sector llywodraeth ganolog wedi wynebu nifer o
heriau sylweddol. Y fwyaf nodedig yw'r pwysau ariannol parhaus tuag i lawr ar
gyllidebau, sydd ochr yn ochr â'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio sy'n
newid (gofynion cyfrifyddu newydd ar gyfer cyrff elusennol, newidiadau i
ofynion Adrodd Blynyddol ar gyfer cyrff anelusennol a phasio'r ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol) yn cadw pwysau ar gyrff a archwilir i ddod o hyd i
ffyrdd o ddarparu mwy gyda llai.
Nododd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus yr adroddiad ar 5 Mehefin 2017.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2017