Ymchwiliad i Dechrau'n Deg: allgymorth

Ymchwiliad i Dechrau'n Deg: allgymorth

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad byr i raglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn buddsoddi yn y teuluoedd, y cymunedau a’r plant ifanc mwyaf difreintiedig cyn gynted â phosibl.

 

Roedd yr ymchwiliad hwn yn rhan o waith ehangach y Pwyllgor ar Y 1,000 Diwrnod Cyntaf.

 

Cylch Gorchwyl

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr i elfen allgymorth Dechrau'n Deg. Fe ystyriodd:

 

  • Yr elfen o waith allgymorth o dan Ddechrau’n Deg sy’n ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi’r plant hynny sy’n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg a fyddai’n elwa ar wasanaethau Dechrau’n Deg.

 

  • I ba raddau y darperir digon o arian Dechrau’n Deg i adlewyrchu’r elfen o waith allgymorth yng nghynlluniau cyflenwi Dechrau’n Deg ac a yw capasiti’r gweithlu yn ddigon i gyflenwi’r rhaglen a’i helfennau allgymorth.

  • Y dystiolaeth am y canlyniadau i rieni a phlant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg o’u cymharu â’r canlyniadau i rieni a phlant mewn ardaloedd sydd fwyaf tebyg o ran lefelau amddifadedd ond nad ydynt yn ardaloedd Dechrau’n Deg.

 

Casglu tystiolaeth

Tynnwyd tystiolaeth o ymatebion i'r Ymgynghoriad 1,000 Diwrnod Cyntaf.

Isod ceir tystiolaeth ychwanegol a ddaeth i law oedd yn benodol i elfen allgymorth Dechrau'n Deg.

 

Adroddiad

Adroddiad ar yr ymchwiliad i Dechrau'n Deg: allgymorth (PDF 2,181KB)

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 184KB)

 

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018.

 

Darparwyd Llywodraeth Cymru ei diweddariad cyntaf (PDF 295KB) fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i raglen Dechrau'n Deg: allgymorth. Cafwyd rhagor o wybodaeth am Dechrau’n Deg hefyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddarn o waith byr y Pwyllgor ar Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yng Nghymru.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/06/2017

Dogfennau