NDM6309 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6309 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6309 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill,
yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw'n gwneud synnwyr bod y gyllideb
cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI).
2.
Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a'i bod, bellach, yn
£1.6 triliwn, sy'n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y
DU.
3.
Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth wneud pob
penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso'r gyllideb
cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref.
4.
Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu
Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu'r ffigur targed o 0.7 y cant yng
nghyfraith y DU.
5.
Yn credu bod llawer o'r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael
ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario'n anghynhyrchiol.
6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed
ar gymorth dramor i 0.2 y cant o'r GNI, sy'n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol
Daleithiau, yr Eidal a Sbaen.
7.
Yn credu y dylai'r £8 biliwn o arbedion a fyddai'n cael eu rhyddhau gael eu
dargyfeirio'n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion
haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.
‘International
Development (Official Development Assistance Target) Act 2015’
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2017
Angen Penderfyniad: 17 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd