NDM6302 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6302 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6302 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad.

2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai'n peryglu dyfodol economi Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a'r DU yn cael ei beryglu.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2017

Angen Penderfyniad: 10 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd