NDM6303 - Dadl Plaid Cymru
NDM6303 - Dadl Plaid Cymru
NDM6303 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Cymru yn cael ei gadw yn nwylo'r cyhoedd.
2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a
thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU
yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau
hynny'n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2017
Angen Penderfyniad: 10 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd