P-05-760 Atal TGAU Cymraeg gorfodol

P-05-760 Atal TGAU Cymraeg gorfodol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Williams ar ôl casglu 128 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid ei pholisi a chaniatau i blant roi’r gorau i Gymraeg lefel TGAU (cyfnod allweddol 4). Rhowch ddewis i blant drwy beidio â gwneud yr iaith Gymraeg yn orfodol.

 

Neuadd arholiad

Neuadd arholiad

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/11/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ymrwymiad digamsyniol a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i astudiaeth orfodol o'r Gymraeg ar lefel TGAU, a'i hatebion i'r pryderon a fynegwyd gan y deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/06/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2017