P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhiannon Shipton & Lily McAllister-Sutton ar ôl casglu 1,333 llofnod. 

 

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf a fydd yn cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.

 

Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor

Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg, a chan fod y Gweinidog yn glir na fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar y mater hwn yn ystod y Cynulliad presennol, fe gytunwyd nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am ddefnyddio'r broses ddeisebau.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/06/2017.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • De Caerdydd a Phenarth / Dwyrain Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/06/2017