P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru
P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Thomas ac ystyriwyd am
y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Mehefin 2017, ar ôl casglu 148 o lofnodion
ar-lein yn e-ddeiseb amgen.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i
gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru.
Mae’r elusen hon yn unigryw yng Nghymru. Nid yw Autism
Spectrum Connections Cymru yn cael dim cyllid gan y Llywodraeth ar hyn o bryd.
Mae’n dibynnu’n llwyr ar gyllid gan ffynonellau nad ydynt, o angenrheidrwydd,
yn gallu ei chefnogi’n barhaol.
Mae’r ganolfan galw heibio agored, unigryw hon yn chwarae
rhan bwysig o ran gwella bywydau pobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru.
Hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr
elusen hon yn parhau i fod ar agor ac yn cael ei hariannu’n llawn o hyd.
Potiau
paent
Statws
Yn ei
gyfarfod ar 17/04/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn sgil
y wybodaeth a ddaeth i law ac oherwydd nad yw'r Pwyllgor Deisebau mewn sefyllfa
i argymell y dylai sefydliadau penodol gael cyllid gan Lywodraeth Cymru neu
eraill.
Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r
deisebydd am godi mater mor bwysig drwy'r broses ddeisebau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017