NDM6297 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6297 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6297 David J
Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau
cynhyrchu ynni a'i pholisi effaith amgylcheddol.
2. Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng
Nghymru.
3. Yn credu:
a) mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo
ffermydd solar yn eu hardal;
b) na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu
ffermydd solar; ac
c) y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y
sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, drwy:
i) annog gosod ffenestri gwydr triphlyg mewn adeiladau
preswyl ac adeiladau eraill; a
ii) annog gosod boeleri sy'n rhad ar danwydd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017
Angen Penderfyniad: 3 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: David J Rowlands AS