NDM6295 - Dadl Plaid Cymru

NDM6295 - Dadl Plaid Cymru

NDM6295 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl.

2. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.5 y cant ers 2011-12, gan effeithio'n anghymesur ar rai o'r bobl mwyaf gwan a hawdd eu niweidio mewn cymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran:

a) datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â'r gymuned fusnes;

b) sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel;

c) darparu addysg o safon; a

d) darparu gofal gwasanaethau cymdeithasol sy'n gofalu am y bobl mwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru.

4. Yn nodi bod cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na'r Cynghorau yng Nghymru a gaiff eu harwain gan Lafur.

5. Yn credu y dylai prosiectau datblygu tai fforddiadwy lleol fod yn seiliedig ar anghenion y gymuned.

6. Yn nodi llwyddiant y model tracio plentyn, a ddefnyddir gan Gyngor Ceredigion - yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn ei fod yn perfformio'n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o arolygiadau - i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu llawn botensial, gyda chymorth yn gynnar iawn i'r rhai nad ydynt yn cyflawni yn ôl y disgwyl.

7. Yn gresynu bod canran cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog ar 58 y cant ers 2012.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017

Angen Penderfyniad: 3 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS