NDM6292 Dadl: Gwasanaethau diabetes yng Nghymru

NDM6292 Dadl: Gwasanaethau diabetes yng Nghymru

NDM6292 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:

a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;

b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;

c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a

d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.

 Y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes 2016-2020 a’r Adroddiad Blynyddol

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017

Angen Penderfyniad: 2 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Jane Hutt AS