P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru
P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Richard Vaughan ar ôl casglu 5,383 llofnod ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu
lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Rydym yn gofyn yn benodol i’r
Cynulliad gyflwyno’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ sy’n sicrhau mai’r rhai
sy’n datblygu unrhyw eiddo newydd sy’n gyfrifol am ddatrys problemau’n ymwneud
â sŵn o fusnesau gerllaw sydd
wedi’u sefydlu’n barod. Rydym yn galw ymhellach ar y Cynulliad Cenedlaethol i
ddeddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol gydnabod ardal o ‘arwyddocâd diwylliannol
cerddorol’ fel rhan o’r fframwaith cynllunio.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ wedi’i mabwysiadu yn
Lloegr ac mae’n diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw sydd wedi’u sefydlu eisoes
drwy sicrhau mai’r person neu’r busnes sy’n gyfrifol am unrhyw newid sydd hefyd
yn gyfrifol am reoli effaith y newid hwnnw. Felly, os caiff tai neu westy eu
codi’r drws nesaf i leoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr, yn
hytrach na’r lleoliad cerddoriaeth fyw, yw lleihau effaith y sŵn. Os na
chaiff yr egwyddor o ‘asiant dros newid’ ei mabwysiadu yng Nghymru, bydd
datblygiadau newydd yn bygwth lleoliadau cerddoriaeth fyw. Dyma sy’n digwydd ar
Stryd Womanby yng Nghaerdydd, lle bwriedir adeiladu gwesty newydd. Yn ogystal â
hyn, ar hyn o bryd mae Maer Llundain yn cynnig cydnabod rhannau o Lundain fel
‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’. Rydym yn credu y dylai awdurdodau
lleol Cymru fedru dewis gwneud hyn hefyd, yn enwedig yn achos lleoedd fel Stryd
Womanby, lle dechreuodd gyrfa cynifer o gerddorion Cymru.
Cyflwyno’r
ddeiseb
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn a
gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, gan nodi’r ymateb cadarnhaol a gafwyd gan
Lywodraeth Cymru i’r ddeiseb. Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2017
Angen Penderfyniad: 12 Gorff 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd