P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr
P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Ian Spiller ar ôl casglu 997 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Cylchfan
Ewenni, Merthyr Mawr, Broadlands a Threlales yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y
ffyrdd ac i gerddwyr.
Mae
llawer o ddamweiniau yn digwydd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lladdwyd dau
berson dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gormod o fân ddamweiniau yn digwydd i
geir, cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r ffordd hon, yn ogystal â damweiniau a
fu bron â digwydd.
Er
hyn, mae'r A48 o Island Farm yn parhau i fod yn ffordd lle gellir teithio ar
gyflymder o 60 mya, ac mae llwybr beicio Broadlands yn gorffen yn Newbridge
Fields.
Rydym yn galw am:
- ostwng y terfyn cyflymder o 60 mya i 40 mya ar unwaith
- man croesi diogel ar yr
A48 o warchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau ar lwybr Merthyr
Mawr
- llwybr cerdded/beicio estynedig i alluogi ein
plant i gerdded i'r ysgol yn ddiogel
- gwaith ymchwil i
opsiynau i atal pobl rhag anwybyddu'r cyfarwyddyd i beidio â throi i'r dde
ar gyffyrdd Merthyr Mawr, er enghraifft ynys ganolog.
- Rhaid sicrhau bod arian ar gael ar unwaith i atal
rhagor o drychinebau.
Ymunwch
â'r ymgyrch heddiw. Faint o deuluoedd eraill fydd yn gorfod gweld eu bywydau'n
cael eu dinistrio cyn y bydd camau'n cael eu cymryd?
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid oes
unrhyw fannau croesi diogel o'r llwybrau cerdded cyhoeddus sy'n cysylltu
gwarchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau â chefn Broadlands ac ymlaen i
lwybr dynodedig Merthyr Mawr.
Disgwylir
i blant Broadlands gerdded ar ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60
milltir yr awr er mwyn cyrraedd Ysgol Brynteg, neu groesi'r ffordd honno, gan
beryglu eu bywydau bob dydd.
Nid yw
rhai gyrwyr yn talu sylw i'r arwyddion sy'n eu gorchymyn i beidio â throi i'r
dde yng nghyffyrdd Merthyr Mawr, ac mae hyn yn creu peryglon ychwanegol i
ddefnyddwyr eraill.
Mae Cyngor
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cysylltu'r broses o gyflwyno
gwelliannau â’r datblygiad hir-ddisgwyliedig yn Island Farm.
Heol a thraffig
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ystyried ymchwilio
i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i
gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i egluro mai mater i'r awdurdod
lleol fyddai gwelliannau i'r rhan hon o'r A48.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2017