P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr

P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ian Spiller ar ôl casglu 997 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Cylchfan Ewenni, Merthyr Mawr, Broadlands a Threlales yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Mae llawer o ddamweiniau yn digwydd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lladdwyd dau berson dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gormod o fân ddamweiniau yn digwydd i geir, cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r ffordd hon, yn ogystal â damweiniau a fu bron â digwydd.

Er hyn, mae'r A48 o Island Farm yn parhau i fod yn ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 mya, ac mae llwybr beicio Broadlands yn gorffen yn Newbridge Fields.

 

 Rydym yn galw am:

  • ostwng y terfyn cyflymder o 60 mya i 40 mya ar unwaith
  • man croesi diogel ar yr A48 o warchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau ar lwybr Merthyr Mawr
  • llwybr cerdded/beicio estynedig i alluogi ein plant i gerdded i'r ysgol yn ddiogel
  • gwaith ymchwil i opsiynau i atal pobl rhag anwybyddu'r cyfarwyddyd i beidio â throi i'r dde ar gyffyrdd Merthyr Mawr, er enghraifft ynys ganolog.
  • Rhaid sicrhau bod arian ar gael ar unwaith i atal rhagor o drychinebau.

 

Ymunwch â'r ymgyrch heddiw. Faint o deuluoedd eraill fydd yn gorfod gweld eu bywydau'n cael eu dinistrio cyn y bydd camau'n cael eu cymryd?

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid oes unrhyw fannau croesi diogel o'r llwybrau cerdded cyhoeddus sy'n cysylltu gwarchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau â chefn Broadlands ac ymlaen i lwybr dynodedig Merthyr Mawr.

Disgwylir i blant Broadlands gerdded ar ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 milltir yr awr er mwyn cyrraedd Ysgol Brynteg, neu groesi'r ffordd honno, gan beryglu eu bywydau bob dydd.

Nid yw rhai gyrwyr yn talu sylw i'r arwyddion sy'n eu gorchymyn i beidio â throi i'r dde yng nghyffyrdd Merthyr Mawr, ac mae hyn yn creu peryglon ychwanegol i ddefnyddwyr eraill.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cysylltu'r broses o gyflwyno gwelliannau â’r datblygiad hir-ddisgwyliedig yn Island Farm.

 

Heol a thraffig

Heol a thraffig

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ystyried ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i egluro mai mater i'r awdurdod lleol fyddai gwelliannau i'r rhan hon o'r A48.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2017