NNDM6289 Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
NNDM6289 Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
NNDM6289 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn
Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, "Diogelu
Dyfodol Cymru" fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i
amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi'r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29
Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a'r mandad
negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU "Legislating for the United
Kingdom's withdrawal from the European Union", a gyhoeddwyd ar
30 Mawrth 2017, sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi
ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod
gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr
UE a'r setliad datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i'r strwythurau
cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb
Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i'r setliad datganoli a threfniadau
gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU
yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw
fframweithiau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o
bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu'n esmwyth, gael eu
cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth
Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys
anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a
fframweithiau cyffredin o'r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso
ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar
ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw
berthynas arall â'r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol
Cymru yn cael eu diogel.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw
anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw
ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i'r perwyl hwnnw.
8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad
rheolaidd i'r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
Dogfennau
Ategol
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2017