NNDM6289 Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd

NNDM6289 Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd

NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi'r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a'r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from the European Union", a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli.

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i'r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i'r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
 
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu'n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â'r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogel.

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i'r perwyl hwnnw.

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i'r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

 

Dogfennau Ategol

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2017