P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru ar ôl casglu 2,058 llofnod – 752 ar bapur a 1,306 ar-lein. 

 

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant a phobl ifanc Cymru drwy gydnabod yn ffurfiol fod unrhyw un sy’n 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant' yn cam-drin plentyn yn emosiynol. Rydym yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol i leihau’r effaith a gaiff achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ar blant a'u teuluoedd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a ganlyn:

 

  • Cydnabod bod unrhyw un sy’n ‘Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ yn cam-drin plentyn yn emosiynol ac, wrth ddiffinio’r term, dylid cynnwys y diffiniad a gafwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (paragraff 1) yma  https://petition.parliament.uk/petitions/164983)

 

  • Comisiynu ac ariannu hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol gan gynnwys staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a Cafcass Cymru (ond nid dim ond y rhain), i’w helpu i adnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ac i sicrhau eu bod yn gwybod am y trefniadau sydd ar waith i ddiogelu plant rhag niwed.

 

  • Sefydlu ac ariannu ymgyrch genedlaethol i roi gwybodaeth i blant a'u teuluoedd a’u dysgu am y cysyniad o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant a'r niwed y mae'n ei achosi.

 

  • Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u niweidio drwy eu Dieithrio oddi wrth Riant.

 

Dyma sut y diffiniwyd 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

‘In cases where parents are separated, parental alienation refers to a situation in which one parent (usually the parent with whom the child lives) behaves in a way which creates anxiety in the child, so that it appears the child is opposed to living or spending time with the other parent.'

Daw'r diffiniad hwn o’r paragraff cyntaf yn ymateb y Llywodraeth i ddeiseb Mr. Darren Towill sydd i’w gweld yn: https://petition.parliament.uk/petitions/164983


Mae CAFCASS Lloegr eisoes wedi cydnabod bod unrhyw un sy’n dieithrio plentyn oddi wrth riant yn euog o gam-drin y plentyn hwnnw. Mewn erthygl yn y Telegraph ar-lein, dyddiedig 12 Chwefror, 2017, dywedodd Anthony Douglas, Prif Weithredwr CAFCASS,  fod Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant yn sicr gyfystyr ag esgeuluso neu gam-drin plentyn, o ran ei effaith bosibl.  http://www.telegraph.co.uk/news/2017/02/12/divorced-parents-pit-children-against-former-partners-guilty/

 

Plentyn a Rhiant

Plentyn a Rhiant

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd bod Cafcass Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ‘Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant’ ac wedi darparu hyfforddiant i'w ymarferwyr ar sut i gydnabod y mater hwn, yn ystod yr amser y mae'r ddeiseb wedi cael ei hystyried. Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi trafod llawer o ohebiaeth ac wedi cynnal sesiynau tystiolaeth gyda’r deisebwyr, Cafcass Cymru a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Ar ôl cynnal pleidlais, barn mwyafrif y Pwyllgor oedd nad oedd llawer rhagor y gellir ei gyflawni yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac y dylid cau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/05/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017