P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen

P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ysgol Caer Drewyn, ar ôl casglu 157 llofnod – 152 ar bapur a 5 ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod arian ar gael i adfer y gwasanaeth deintyddol symudol yn ardal Bala-Wrecsam ac iddo barhau fel gwasanaeth pwysig i iechyd plant yr ardal yn y dyfodol.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Rydym am ddechrau deiseb gan obeithio y cawn fan ddeintyddol newydd i ddod i’n hysgol i’n helpu ni i edrych ar ôl ein dannedd, fel o’r blaen. Rydym eisoes wedi colli ein bws ysgol ac rydym yn teimlo ein bod yn colli llawer o’r gymuned ac y bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein dyfodol.

 

Disgyblion Ysgol Caer Derwyn

Disgyblion Ysgol Caer Derwyn

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/07/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod cynlluniau i gael uned ddeintyddol symudol newydd ac ar y sail bod y deisebwyr yn fodlon ar y canlyniad.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/03/2017