Effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru

Effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad byr i effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau.

 

Cefndir

Trafodwyd effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau yn helaeth yn ystod uwchgynhadledd bysiau gyntaf Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2017 ac mae'n fater o bryder i weithredwyr bysiau. Trafodwyd yr effaith ar weithredwyr yng nghyd-destun y dirywiad sylweddol diweddar yn nifer y teithwyr a gwasanaethau yng Nghymru.  Gostyngodd nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig yng Nghymru tua 46%, o 1,943 o wasanaethau i 1,058 rhwng mis Mawrth 2005 a mis Mawrth 2015.  Gostyngodd nifer y siwrneiau teithwyr bysiau tua 19% rhwng 2008 a 2015.

 

Mae’r pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y canlynol:

  • Sut mae tagfeydd yn effeithio ar y sector bysiau yng Nghymru a sut mae'n cymharu â rhannau eraill o'r DU?
  • Sut y dylid gwella polisi i fynd i'r afael ag effaith tagfeydd ar y sector bysiau?
  • A yw tagfeydd yn effeithio ar yr angen am gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau bws yng Nghymru?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau