Iechyd Meddwl Amenedigol

Iechyd Meddwl Amenedigol

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol. Nod yr ymchwiliad oedd ystyried sut roedd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu darparu a sut y gallai Llywodraeth Cymru wella gwasanaethau i famau, babanod, tadau a theuluoedd.

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed sut mae gwasanaethau yn cydgysylltu o dan ymbarél Iechyd Meddwl Amenedigol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau iechyd meddwl cyffredinol i oedolion, unedau mamau a babanod i gleifion mewnol, gwasanaethau iechyd meddwl i rieni a babanod, ymwelwyr iechyd, seicoleg glinigol, a gwasanaethau bydwreigiaeth, meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol estynedig, rôl y trydydd sector a grwpiau cymorth lleol a darparwyr gwasanaethau preifat.

 

Cyhoeddwyd y Pwyllgor ei adroddiad ar ganfyddiadau'r ymchwiliad: Iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru (PDF 195MB)

 

Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, anfonwyd gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (PDF 131KB) yn cywiro tystiolaeth a roddwyd mewn perthynas â’u gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

 

Mae ymateb (PDF 360KB) Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r ymchwiliad wedi cael ei gyhoeddi.

 

Roedd yr ymchwiliad hwn yn rhan o waith ehangach y Pwyllgor ar Y 1,000 Diwrnod Cyntaf.

 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau