P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lynne Chick ar ôl casglu 1,239 llofnod – 502 ar bapur a 737 ar-lein. 

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddiogelwch pob plentyn wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

 

Rydym am gael bysiau ysgol penodedig â sedd a gwregys diogelwch i bob plentyn, fel y gall plant deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ddiogel, ac ni ddylai unrhyw blentyn gael ei orfodi i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn.  Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch plant.

Mae gan ein plant yr hawl i deimlo'n ddiogel. Gall bysiau cyhoeddus fynd yn orlawn. Nid oes gennym ddim syniad pwy allai fod yn teithio ar fws cyhoeddus. Bysiau at ddefnydd y cyhoedd yw bysiau cyhoeddus ac nid cludiant i'r ysgol. Nid ydym yn gofyn am wasanaeth di-dâl. Nid ydym yn gofyn am gael rhywbeth am ddim, dim ond tawelwch meddwl bod ein plant yn ddiogel pan fyddant yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Rydym yn dysgu ein plant bod pobl ddieithr yn beryglus ac eto mae disgwyl i ni eu hanfon ar fws cyhoeddus yn llawn pobl ddieithr bob dydd.

 

Bu farw fy merch ar ôl iddi gael ei tharo gan fws cyhoeddus a ddefnyddiodd i deithio adref o'r ysgol. Rwy'n teimlo ei bod hi'n anochel y bydd rhiant arall yn wynebu'r un hunllef â mi os na wneir rhywbeth i sicrhau bod gan blant ddull diogel o deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd llawer o bobl yn cofio fy merch Louise a'r ffordd ofnadwy y bu farw. I'r rhai nad ydynt yn cofio, roedd Louise yn 11 oed ac ond megis dechrau yn yr ysgol uwchradd. Roedd fy mhlant yn dibynnu ar fws cyhoeddus oherwydd y pellter i gyrraedd yr ysgol. Ar 19 Mawrth 2001, roeddwn i'n disgwyl i Louise ddod adref o Ysgol Uwchradd Cei Connah ar yr amser arferol, ond roedd y bws yn hwyr y diwrnod hwnnw.

 

Dechreuais boeni, ac wrth i mi adael y tŷ gwelais ffrindiau Louise a ddywedodd wrthyf ei bod hi wedi cael ei tharo gan gerbyd. Rhedais at ben y stryd i weld fy merch brydferth yn ymladd am ei bywyd yn y ffordd, â phlant ysgol gofidus o'i hamgylch. Roeddwn i'n methu â deall beth oedd wedi digwydd. Yn y misoedd wedyn, daeth i'r amlwg bod y bws yr oedd Louise yn teithio adref arno yn orlawn. Roedd oedolion yn sefyll yn siarad â'r gyrrwr. Soniwyd am wthio, a bod ei bag wedi'i ddal yn y drws neu yn yr olwyn, gan achosi iddi gael ei llusgo o dan y bws yr oedd hi newydd ddod oddi arno. Profwyd bod mannau dall nad oedd modd eu gweld yn y drychau ac roedd hynny wedi cyfrannu at y ddamwain.

 

Yn dilyn penderfyniad i gau ysgol leol, Ysgol Uwchradd John Summers, mae llawer o rieni wedi siarad â mi am eu pryderon ynghylch diogelwch eu plant wrth deithio ar fysiau cyhoeddus yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Codwyd pwyntiau sydd wedi codi ofn arnaf, felly rwy'n arwain ymgyrch yn enw fy merch er mwyn sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn cael ei orfodi i ddefnyddio bysiau trafnidiaeth gyhoeddus fel cludiant i'r ysgol. 

 

Teithwyr ar fws

Teithwyr ar fws

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/07/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad oes llawer o gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r deisebydd a rhannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/04/2017.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Alun a Glannau Dyfrdwy
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2017