P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lynne Chick ar ôl casglu 1,239 llofnod – 502 ar bapur a 737 ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y rhoddir
blaenoriaeth i ddiogelwch pob plentyn wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i'r
ysgol.
Rydym am gael bysiau
ysgol penodedig â sedd a gwregys diogelwch i bob plentyn, fel y gall plant
deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ddiogel, ac ni ddylai unrhyw blentyn gael
ei orfodi i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn. Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch
plant.
Mae gan ein plant yr hawl
i deimlo'n ddiogel. Gall bysiau cyhoeddus fynd yn orlawn. Nid oes gennym ddim
syniad pwy allai fod yn teithio ar fws cyhoeddus. Bysiau at ddefnydd y cyhoedd
yw bysiau cyhoeddus ac nid cludiant i'r ysgol. Nid ydym yn gofyn am wasanaeth
di-dâl. Nid ydym yn gofyn am gael rhywbeth am ddim, dim ond tawelwch meddwl bod
ein plant yn ddiogel pan fyddant yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Rydym yn
dysgu ein plant bod pobl ddieithr yn beryglus ac eto mae disgwyl i ni eu hanfon
ar fws cyhoeddus yn llawn pobl ddieithr bob dydd.
Bu farw fy merch ar ôl
iddi gael ei tharo gan fws cyhoeddus a ddefnyddiodd i deithio adref o'r ysgol.
Rwy'n teimlo ei bod hi'n anochel y bydd rhiant arall yn wynebu'r un hunllef â
mi os na wneir rhywbeth i sicrhau bod gan blant ddull diogel o deithio yn ôl ac
ymlaen i'r ysgol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd llawer o bobl yn cofio fy
merch Louise a'r ffordd ofnadwy y bu farw. I'r rhai nad ydynt yn cofio, roedd
Louise yn 11 oed ac ond megis dechrau yn yr ysgol uwchradd. Roedd fy mhlant yn
dibynnu ar fws cyhoeddus oherwydd y pellter i gyrraedd yr ysgol. Ar 19 Mawrth
2001, roeddwn i'n disgwyl i Louise ddod adref o Ysgol Uwchradd Cei Connah ar yr
amser arferol, ond roedd y bws yn hwyr y diwrnod hwnnw.
Dechreuais boeni, ac wrth i mi
adael y tŷ gwelais ffrindiau Louise a ddywedodd wrthyf ei bod hi wedi cael
ei tharo gan gerbyd. Rhedais at ben y stryd i weld fy merch brydferth yn ymladd
am ei bywyd yn y ffordd, â phlant ysgol gofidus o'i hamgylch. Roeddwn i'n methu
â deall beth oedd wedi digwydd. Yn y misoedd wedyn, daeth i'r amlwg bod y bws
yr oedd Louise yn teithio adref arno yn orlawn. Roedd oedolion yn sefyll yn
siarad â'r gyrrwr. Soniwyd am wthio, a bod ei bag wedi'i ddal yn y drws neu yn
yr olwyn, gan achosi iddi gael ei llusgo o dan y bws yr oedd hi newydd ddod
oddi arno. Profwyd bod mannau dall nad oedd modd eu gweld yn y drychau ac roedd
hynny wedi cyfrannu at y ddamwain.
Yn dilyn penderfyniad i gau
ysgol leol, Ysgol Uwchradd John Summers, mae llawer o rieni wedi siarad â mi am
eu pryderon ynghylch diogelwch eu plant wrth deithio ar fysiau cyhoeddus yn ôl
ac ymlaen i'r ysgol. Codwyd pwyntiau sydd wedi codi ofn arnaf, felly rwy'n
arwain ymgyrch yn enw fy merch er mwyn sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn cael
ei orfodi i ddefnyddio bysiau trafnidiaeth gyhoeddus fel cludiant i'r ysgol.
Teithwyr ar fws
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/07/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad oes llawer o
gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Wrth wneud hynny,
roedd y Pwyllgor am fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r deisebydd a rhannu
manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 04/04/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Alun a Glannau Dyfrdwy
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2017