NDM6268 - Dadl Plaid Cymru

NDM6268 - Dadl Plaid Cymru

NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt. 

2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau'r effaith gymdeithasol ac economaidd adeiladu;;;;

b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;

c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu;

d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.

'Datganiad Polisi Caffael Cymru'

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/03/2017

Angen Penderfyniad: 22 Maw 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS