NDM6259 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6259 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6259
 
Jeremy Miles (Castell-nedd):
Lee Waters (Llanelli):
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/03/2017

Angen Penderfyniad: 22 Maw 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd