Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru yn ddiweddarach eleni.

 

Crynodeb

Bwriad yr ymchwiliad yw rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o weithgarwch bargeinion dinesig a thwf ym mhedwar rhanbarth economaidd Cymru – a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â strategaethau economaidd Cymru a'r DU.

 

Er mwyn cynorthwyo ei ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar unrhyw un neu'r holl bwyntiau a ganlyn:

  • Y sefyllfa bresennol o ran y Bargeinion Dinesig sydd eisoes wedi'u llofnodi ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe a'r camau nesaf sydd ar y gweill i'w datblygu;
  • Yr effaith y bwriedir i'r Bargeinion Dinesig ei chael a'r dulliau ar gyfer llywodraethu, ariannu a monitro hyn;
  • Y manteision a allai godi o Fargen Dwf bosibl ar gyfer gogledd Cymru;
  • I ba raddau y gallai bargen dwf debyg fod o fudd i ganolbarth Cymru;
  • I ba raddau y gallai'r bargeinion twf a dinesig ddatrys neu waethygu anghydraddoldebau presennol, mewn rhanbarthau a rhyngddynt;
  • I ba raddau y mae'r bargeinion twf a dinesig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.
  • Byddem hefyd yn croesawu safbwyntiau cymharol am ddulliau gweithredu bargeinion twf a rhanbarthau eraill ledled y DU.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau