NDM 6244 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM 6244 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6244
David
J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu, er y gall
contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r
hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm
sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer
rhwng cyflogwr a chyflogai.
2. Yn nodi mai rhithiol
yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi
ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd
angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn
un o ansicrwydd parhaol;
3. Yn nodi bod yr
ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd
amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n
dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o
gamfanteisio.
4. Yn credu bod gan
weithio contractau dim oriau y gallu i:
a) creu bywyd o straen;
b) cael effaith negyddol
ar reoli cyllidebau teuluol;
c) effeithio ar
ymrwymiadau teuluol;
d) tanseilio hawliau a
chysylltiadau cyflogaeth; ac
e) cymhlethu'r gallu i
gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am
y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/02/2017
Prif Aelod: David J Rowlands AS