Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau
Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau
Craffodd Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad ar Adroddiad Blynyddol Llywodraeth
Cymru ar Reoli Grantiau mewn cyfres o sesiynau tystiolaeth rhwng mis Mawrth
2014 a mis Chwefror 2016. Tynnodd y sesiynau hynny ar gynnwys adroddiadau rheoli
grantiau blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013, 2014 a 2015, a gyhoeddwyd
fel rhan o’i hymateb i’r argymhellion
yng ngwaith y Pwyllgor.
Argymhellodd y
Pwyllgor blaenorol yn ei Adroddiad
Etifeddiaeth fod y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus sy’n ei olynu yn parhau i graffu ar hynt gwaith
Llywodraeth Cymru o ran gwella’r gwaith o reoli grantiau, yn tynnu ar
adroddiadau blynyddol Llywodraeth Cymru, ac yn ystyried unrhyw dystiolaeth
newydd ynghylch rheoli grantiau sy’n codi o waith yr Archwilydd
Cyffredinol neu bryderon eraill sy’n cael eu tynnu at sylw’r Pwyllgor.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/02/2017
Dogfennau