P-05-744 Atal Gasympio; Dilyn y Broses Brynu yn yr Alban
P-05-744 Atal Gasympio; Dilyn y Broses Brynu yn yr Alban
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Victoria Bridle ar ôl casglu 18 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ffordd yr ydym yn
prynu ac yn gwerthu tai ac i asesu a fyddai'n bosibl gweithredu system fel yr
un yn yr Alban i atal gasympio.munedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid
Forsythia rhag cael ei gau.
Gwybodaeth ychwanegol
Fy enw i yw Victoria
Bridle. Roedd fy ngŵr a minnau'n
arfer byw yn ne-ddwyrain Llundain a gwnaethom symud i ogledd Cymru tua thair
blwyddyn a hanner yn ôl. Ychydig wythnosau'n ôl gwnaethom gynnig ar dŷ yr
oeddem wedi syrthio mewn cariad ag ef. Derbyniwyd y cynnig ac roedd y tŷ
Wedi'i Werthu yn Amodol ar Gytundeb. Dywedodd ein gwerthwr tai wrthym ei fod
wedi dweud wrth yr asiant arall i'w dynnu oddi ar y farchnad fel nad oedd ar
gael ar gyfer ymweliadau na derbyniadau mwyach.
Roedd popeth yn mynd yn dda iawn hyd nes inni gael gwybod gan ein
gwerthwr tai fod yr asiant arall wedi cael galwad ffôn yn dweud bod rhywun
arall wedi gwneud cynnig a'i fod wedi'i dderbyn. Felly y cyfan y gwnaethom ei
dalu oedd ffioedd y cyfreithwyr.
Gwnaethom sefydlu'r ddeiseb hon
er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd gan fod gennym bopeth, gan gynnwys cynnig
morgais, yn eu lle.
At hynny, gwnaethom hyd yn oed
weld y gwerthwyr ar y dydd Sadwrn gyda'n plentyn 18 mis oed i gael golwg
terfynol o gwmpas ar y gosodiadau a'r ffitiadau. Dywedodd y gwerthwyr hyd yn oed beth yr
oeddent am eu gadael inni a gwnaethom ysgwyd llaw hefyd. Wrth ddweud wrth bobl
eraill am hyn, roeddent yn meddwl bod gasympio yn anghyfreithlon, ond yn amlwg
nid yw hynny'n wir.
Ac i goroni'r cwbl, es i at
werthwr tai arall y diwrnod o'r blaen i ofyn a oedd ganddynt unrhyw beth arall
ar werth. Gwnaethant hyd yn oed geisio rhoi'r tŷ y cawsom ein gasympio
arno inni. Felly, maent yn amlwg yn ceisio gasympio'r bobl hyn, sy'n amlwg yn
anghywir. Llofnodwch y ddeiseb hon a'i drosglwyddo i deulu a ffrindiau i'w
lofnodi er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017
penderfynodd Pwyllgor Deisebau fod
y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y
tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: cau'r ddeiseb o ganlyniad i'r eglurder
ychwanegol am gadw pwerau'n ôl yn y maes hwn i Senedd y DU a ddarparwyd gan
Ddeddf Cymru 2017; ac ysgrifennu at y deisebydd i awgrymu ei fod yn ystyried
cyflwyno deiseb i Senedd y DU ac ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU ar gyfer
Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y mater.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017