P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru
P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
David Sedley ar ôl casglu 222 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau gweithredu yn erbyn
masnachu mewn anifeiliaid egsotig sy’n cael eu dal a’u magu ar gyfer y fasnach
anifeiliaid anwes yng Nghymru. Dylai hefyd wahardd trwyddedu pob busnes sydd
ynghlwm â’r fasnach ddinistriol, greulon ac anfoesegol hon, gydag eithriadau
clir ar gyfer canolfannau achub a chanolfannau achub trwyddedig.
Rydym hefyd yn annog
Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban, sydd wedi ymrwymo i
adolygu masnachu a mewnforio anifeiliaid egsotig ar gyfer y fasnach anifeiliaid
anwes yn yr Alban ym mis Chwefror 2015, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet
dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd. Er mwyn i Gymru gael ei chymryd o ddifrif
yn y gymuned gadwraeth fyd-eang, rydym o’r farn na allwn gael ein gweld yn
caniatáu i’r fasnach hon barhau yn ein gwlad ein hunain. Mae hyn yn amlygu
pryderon Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), y Federation of Veterinarians of
Europe (FVE) a'r RSPCA.Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud i raglen
Cymunedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid Forsythia rhag cael ei gau.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae anifeiliaid fel mwncïod,
'meerkats', ymlusgiaid a chrwbanod yn anifeiliaid gwyllt sy'n perthyn i’w
cynefin naturiol, ac ni ddylent fod mewn cewyll a thanciau gwydr yng nghartref
rhywun. Caiff dros 1000 o rywogaethau o famaliaid, adar, infertebratau,
ymlusgiaid, amffibiaid a physgod eu magu a’u dal ar gyfer y fasnach anifeiliaid
anwes egsotig. Ein dadl ni yw mai dim ond yn eu cynefinoedd naturiol y gellir
bodloni anghenion cymdeithasol, corfforol ac ymddygiadol cymhleth yr
anifeiliaid hyn. Hefyd, ceir tystiolaeth gref sy'n cysylltu’r fasnach mewn
anifeiliaid egsotig â dinistrio cynefinoedd a difodiant rhywogaethau yn y
gwyllt. Ochr yn ochr â dioddefaint anifeiliaid o'r fath wrth deithio - gan
gynnwys llawer o gofnodion am farwolaethau - gall anifeiliaid ifanc dyfu i fod
yn oedolion peryglus a all fynd dros ben llestri mewn amgylcheddau domestig nad
ydynt yn addas i fodloni eu hanghenion lles am fwy o le a bwyd.
Mwnci mewn cawell.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt diweddar gan y deisebydd, a'r cadarnhad
gan y Gweinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd na Chod
Ymarfer yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb
hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/03/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017