Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r mwyaf o blith y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gan gyflogi 1,900 o staff ledled Cymru â chyllideb o £180 miliwn. Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill 2013, a chymerodd gyfrifoldeb dros swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, yn ogystal â swyddogaethau penodol gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad yn archwilio a oedd trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith, neu'n cael eu datblygu, gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ei brif flaenoriaethau a chanlyniadau, gan gyhoeddi adroddiad ym mis Chwefror 2016.

 

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi trafod yr adroddiad hwn ac wedi craffu ar Gyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015-16 wedi i’r Archwilydd Cyffredinol roi barn amodol arnynt. Mae’r Pwyllgor wedi cael gwybodaeth yn gyson am y modd y mae cynllun gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei roi ar waith yn dilyn adroddiad y Pwyllgor.

 

Ar 16 Gorffennaf 2018, rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar Gyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, a chraffodd y Pwyllgor arnynt yn nhymor yr hydref 2018. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Tachwedd 2018. Mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i argymhellion yr adroddiad, ac ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion ar 28 Ionawr 2019.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ym mis Chwefror 2019 i ystyried yr argymhellion a’r camau i’w cymryd yn dilyn yr adroddiad a’r adolygiad annibynnol. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Chwefror 2019.

 

Bu’r Pwyllgor yn archwilio ymhellach y camau y bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion a godir wrth graffu ar Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2018-19, a gafodd ei gymhwyso unwaith eto gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Ionawr 2020. Roedd y Pwyllgor wedi bodloni ei hun bod cynnydd wedi’i wneud a bod y sefydliad wedi mynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2018-19

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Clare Pillman -  Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

Sir David Henshaw -  Cadeirydd

 

20 Ionawr 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth

Gwylio’r Sesiwn Dystiolaeth ar Senedd TV

 

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2017-18

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Clare Pillman -  Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

 

24 Medi 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig

1 Hydref 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Cyfoeth Naturiol Cymru

Clare Pillman – Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

Syr David Henshaw – Cadeirydd

11 Chwefror 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

 

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015-16

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Cyfoeth Naturiol Cymru - Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16

28 Mawrth 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1 (PDF 361KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig -   

Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16

22 Mai 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2 (PDF 457KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Cyfoeth Naturiol Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 a chraffu ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru

22 Mai 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3 (PDF 457KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

 

Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid yn cynnwys goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru. Cymerodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 15 Mawrth 2017 mewn perthynas â’r oedi wrth osod cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015-16 (Trawsgrifiad PDF, 423KB).

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/02/2017

Dogfennau