Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru?

Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru?

 

Cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ystyried dyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru.

 

Nod polisi rhanbarthol yw lleihau gwahaniaethau rhanbarthol o ran perfformiad economaidd. Cytunwyd ar y polisïau hyn ar lefel yr UE cyn Brexit. Yn y fframwaith ariannol saith mlynedd diwethaf, clustnodwyd gwerth £2 biliwn o cyllid yr UE at y diben hwn yng Nghymru.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad, bu’r Pwyllgor yn trafod:

 

  • statws rhaglenni presennol (gan gynnwys lefelau ymrwymiad a chwestiynau’n ymwneud â chau rhaglenni).
  • dyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru (yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd);
  • yr arfer gorau mewn rhannau eraill o’r byd, gan gynnwys modelau eraill sy’n cael eu defnyddio i leihau anghyfartaledd rhanbarthol mewn perfformiad economaidd.

Casglu tystiolaeth

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar fel rhan o'i ymchwiliad ar y dyddiadau canlynol:

27 Chwefror 2017 (371 KB)

6 Mawrth 2017 (583 KB)

13 Mawrth 2017 (532 KB)

20 Mawrth 2017 (279 KB)

15 Mai 2017 (631 KB)

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig hefyd y gellir ei gweld isod.

Adroddiad

 

Cafodd adroddiad y Pwyllgor ar ddyfodol polisi rhanbarthol ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn

 

Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Nid yw’n opsiwn inni gario mlaen fel rydym, ac mae angen i bawb, o Lywodraeth Cymru, i’r sector preifat, ein prifysgolion a’r trydydd sector ddechrau meddwl am ffyrdd newydd o fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd sy’n ein hwynebu fel cenedl.

 

“Mae’n alwad i bob un ohonom wynebu’r her, ac yn un na ddylai neb ei hanwybyddu.”

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad y Pwyllgor. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Medi 2017.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2017

Dogfennau