Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Awdurdododd y Prif Weinidog Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, fel yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil, o 9 Tachwedd 2017. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Prif ddibenion y Bil yw:

  • diddymu hawl tenantiaid diogel cymwys i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu);
  • diddymu hawl a gadwyd tenantiaid diogel blaenorol sy'n gymwys i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan adran 171A o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu a Gadwyd);
  • diddymu hawl tenantiaid sicr neu ddiogel cymwys landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr cofrestredig preifat i gaffael eu cartref am bris gostyngol o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (Hawl i Gaffael);
  • er mwyn annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu neu i gaffael tai newydd i’w rhentu, ni fydd yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd, na'r Hawl i Gaffael yn cael eu harfer gan denantiaid sy’n symud i gartrefi'r stoc o dai cymdeithasol newydd dros ddau fis ar ôl i’r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol, yn amodol ar rai eithriadau penodol;
  • darparu ar gyfer blwyddyn o leiaf ar ôl i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol cyn y bydd diddymu'r Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a'r Hawl i Gaffael, o ran y stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn dod i rym.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

BillStageAct

 

Daeth Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru ar 24 Ionawr 2018.

 

Cofnod o Daith drwy’r Senedd

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 13 Mawrth 2017

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 1.12 MB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 106 KB)

 

Datganiad y Llywydd: 13 Mawrth 2017 (PDF 127.93 KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 13 Mawrth 2017 (PDF 53.21 KB)

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): 14 Mawrth 2017

 

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 ar 9 Mawrth 2017.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor galwad am dystiolaeth ysgrifenedig.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

15 Mawrth 2017

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

(Preifat)

(Preifat)

29 Mawrth 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

3 Mai 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

11 Mai 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

25 Mai 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

15 Mehefin 2017

Trafodaeth preifat am cynnwys yr adroddiad

Cyfarfod preifat

Cyfarfod preifat

21 Mehefin 2017

Trafodaeth preifat am cynnwys yr adroddiad

Cyfarfod preifat

Cyfarfod preifat

 

Gohebiaeth

 

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (12 Ebril 2017)

 

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (30 Ebrill 2017)

 

Llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (10 Mai 2017) (Saesneg yn unig)

 

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (12 Mai 2017)

 

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (22 Mai 2017)

 

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (26 Mai 2017)

 

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - 9 Mehefin 2017

 

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - 13 Mehefin 2017

 

Cofnod o’r trafodaethau grŵp gyda thenantiaid

 

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (21 Mehefin 2017)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor
Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar 7 Gorffennaf  2017. (PDF5.11MB)

 

Ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad Cyfnod 1 – 27 Medi 2017 (PDF 238KB)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y Cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

3 Ebrill 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar 7 Gorffennaf 2017 [PDF, 972KB]

 

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – 12 Medi 2017 (PDF 243KB)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y Cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

29 Mawrth 2017

Goblygiadau ariannol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

(Preifat)

(Preifat)

3 Mai 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gohebiaeth

Llythyr gan y Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – 3 Mai 2017 (PDF, 165KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 17 Mai 2017 (PDF, 264KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - 12 Medi 2017 (PDF 237.80 KB)

 

Adroddiad

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 28 Mehefin 2017 (PDF, 842KB).

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Gorffennaf 2017.

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Gorffennaf 2017.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref 2017.

 

Cofnodion Cryno: 5 Hydref 2017

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 15 Medi 2017 (PDF 69KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 15 Medi 2017 (PDF 151KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 22 Medi 2017 (PDF 89KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 27 Medi 2017 (PDF 62KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 5 Hydref 2017 (PDF 110KB)

Grwpio Gwelliannau – 5 Hydref 2017 (PDF 69KB)

 

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 117KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

Memorandwm Esboniadol Diwygiedig (PDF 1.1 MB)

 

Gohebiaeth

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 14 Tachwedd 2017 (PDF, 269KB)

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Tachwedd 2017.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 31 Hydref 2017 (PDF 84 KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 21 Tachwedd 2017 (PDF 64 KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 28 Tachwedd 2017 (PDF 97 KB)

Grwpio Gwelliannau – 28 Tachwedd 2017 (PDF 68 KB)

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r newidiadau yng nghyfnod 2 (PDF 2.8 MB)

 

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF 119 KB)

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 5 Rhagfyr 2017.

 

Y Bil, fel y’i pasiwyd

 

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol (Saesneg yn unig), y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Saesneg yn unig) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

 

 

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau