P-05-741 Mae angen Cyfyngiadau Llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru
P-05-741 Mae angen Cyfyngiadau Llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Thomas ar ôl casglu 19 llofnod.
Geiriad y
ddeiseb
Mae angen llywodraethu a chraffu llymach ar Cyfoeth
Naturiol Cymru. Mae angen rhoi'r gorau i droi tir amaethyddol proffidiol yn
gynefinoedd ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle mae'n rhaid i'r
ffermwr gydymffurfio gyda hyd yn oed mwy o gyfyngiadau er mwyn ceisio gwneud
bywoliaeth!
Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr
ochr Amgylcheddol) yn sefydliad sy'n cynnwys swyddogion nad ydynt yn barod i
wrando ar wybodaeth leol, a dim ond yn rhoi cyngor yn unol â'r hyn y gallant ei
ddarllen mewn llyfrau! Dim ond un nod mewn bywyd sydd ganddynt, a hynny yw troi
ein cefn gwlad yn un warchodfa natur amhroffidiol enfawr ar draul y trethdalwr
a chymunedau gwledig yn gyffredinol! Mae angen i'n cynrychiolwyr etholedig
graffu'n agosach ar eu gwaith!
Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i adolygu
arferion a pholisïau cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y ffordd y mae'n
gweinyddu tir a allai gael ei droi'n gynefin neu'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig. Ar hyn o bryd, mae'r sefydliad yn gwneud mwy o ddrwg na da i gefn
gwlad! Mae angen taro cydbwysedd a fydd o fudd i bawb.
Mynyddoedd
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail
bod:
- Adnoddau Naturiol Cymru wedi
cadarnhau bod barn tirfeddianwyr a meddianwyr, yn ogystal ag ystyriaethau
economaidd ehangach, yn cael eu hystyried wrth benderfynu Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;
- Nid yw'r Pwyllgor yn gallu
ymyrryd yn y sefyllfa benodol dan sylw gyda'r tir wedi'i feddiannu gan y
deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.
Etholaeth a
Rhanbarth y Cynulliad
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gorllewin
Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2017