P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Williams ar ôl casglu 73 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

​Er mwyn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mwy hygyrch, dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr nad oes neb sy’n gofyn am gymorth gan wasanaeth iechyd meddwl gael ei droi ymaith heb help. Os oes unrhyw un yn mynd at eu meddyg teulu neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol i ofyn am gymorth ar gyfer problem iechyd meddwl, dylid eu cyfeirio’n awtomatig at y Tîm Argyfwng a dylai’r tîm hwn gymryd camau ar unwaith i’w helpu. Nid yr unigolyn ddylai fod yn gyfrifol am gysylltu â’r Tîm Argyfwng ei hun. Dylid cynnig therapi un i un, yn hytrach a therapi grŵp,  bawb. 

Fel y gŵyr nifer, nid yw fy mywyd i wedi bod yn hawdd ac rwyf wedi cael problemau iechyd meddwl; rwy’n cael pyliau o iselder, gorbryder, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac OCD. Cyrhaeddais y gwaelod un yn ddiweddar, a sgrechian am help ond, er i mi gredu y byddai’r gwasanaethau iechyd meddwl yn fy helpu,  cefais fy siomi’n arw ganddynt.

Rwyf am i’m profiad i helpu eraill yng Nghymru i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y camau sy'n ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022, fel yr argymhellir yn adroddiad y Pwyllgor ar y ddeiseb hon. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor, ac wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i wella mynediad at ofal mewn argyfwng, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am ei hymrwymiad i wella gwasanaethau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerdydd

·         Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2017

Dogfennau