NDM6223 - Dadl Plaid Cymru

NDM6223 - Dadl Plaid Cymru

NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy.

2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.

3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/01/2017

Angen Penderfyniad: 1 Chwe 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS