NDM6211 Dadl: Gweithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell
NDM6211 Dadl: Gweithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell
NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith
gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant
cymunedau.
2. Yn cefnogi:
a) pwyslais cynyddol ar
weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a
b) cynnwys dinasyddion yn
y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn
byw.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder mai
ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/09/2017