NDM6191 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6191 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6191
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Hefin David
(Caerffili)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad
cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au a'r 1980au.
2. Yn nodi bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw o HIV a
Hepatitis C a gawsant wrth gael gwaed halogedig neu gynnyrch gwaed halogedig a
bod eraill yn dal i fyw gyda'r heintiau hyn.
3. Yn cydnabod bod perthnasau mewn galar yn byw gyda
chanlyniadau'r drychineb hon.
4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis
Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu heintio gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn
nodi ymhellach nad yw'r teuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt, wedi cael
atebion llawn ynglŷn â'r rhesymau pam y caniatawyd i hyn ddigwydd a'u bod
yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2017
Angen Penderfyniad: 25 Ion 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd