NDM6208 - Dadl Plaid Cymru
NDM6208 - Dadl Plaid Cymru
NDM6208 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Brif
Weinidog Cymru - yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU - i gwrdd â
Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau'r cytundeb a gynigir gan isadran
y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o'r
fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a
diogelu hawliau pensiwn cronedig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a
phartïon â diddordeb i baratoi strategaeth arall pe byddai'r cynnig presennol
yn cael ei wrthod gan y gweithlu dur yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/01/2017
Angen Penderfyniad: 18 Ion 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS