NDM6197 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6197 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i
ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau
rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol
i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio.
3. Yn credu:
a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a
rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn
ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym
Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a
b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd
rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio
canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru.
4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy
mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE.
5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth
y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â
rheolaeth fewnfudo gadarn.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2017
Angen Penderfyniad: 11 Ion 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Neil Hamilton AS