NDM6198 - Dadl Plaid Cymru

NDM6198 - Dadl Plaid Cymru

NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;

b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;

c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;

d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac

e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2017

Angen Penderfyniad: 11 Ion 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS