NDM6195- Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6195- Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.”

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.

'Datganiad: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf'

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru)’

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2017

Angen Penderfyniad: 11 Ion 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Paul Davies AS