Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Charles Dodman ar ôl casglu 14 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwy'n galw ar Gynulliad Cymru i drafod a gweithredu mesurau i fynd i'r afael ag amseroedd aros annerbyniol ar gyfer pobl Cymru yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae pobl Cymru yn ymddangos yn ddigalon ac wedi'u tanseilio oherwydd y sefyllfa annerbyniol hon.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/10/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i'w chau’n awr o ystyried y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yn Ysbyty Wrecsam Maelor a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd yn darparu adroddiadau’n rheolaidd ar ei berfformiad i'r Cyngor Iechyd Cymunedol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2017
Angen Penderfyniad: Meeting Date Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau